Harri Pritchard Jones

Harri Pritchard Jones

 Harri Pritchard Jones

Ganwyd Harri Pritchard Jones yng Nghanolbarth Lloegr yn 1933 ac fe’i magwyd yn Sir Fôn. Derbyniodd ei addysg yn Sir Fôn ac yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Er iddo weithio fel meddyg a seiciatrydd, ei brif ddiddordeb oedd llenyddiaeth. Cyhoeddodd pymtheg cyfrol, gan gynnwys nofelau, casgliadau o straeon byrion, cyfieithiadau a beirniadaeth lenyddol. Ysgrifennodd nifer o sgriptiau teledu yn ogystal. Cyfieithwyd ei waith i saith iaith, a darllenwyd ei waith ar Radio Cymru, Radio Wales, Radio 4 a 3, a Radio Denmarc. Enillodd Wobrau gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau. Ef oedd cadeirydd Yr Academi Gymreig rhwng 1991 a 1996.