Awdur a pherfformiwr cwiar Cymraeg yw Leo Drayton sy'n defnyddio ei brofiadau a'i hunaniaeth fel dyn traws yn ei waith. Ochr yn ochr ag Iestyn Tyne, roedd yn un o awduron ifanc y gyfres Y Pump, a enillodd Lyfr y Flwyddyn 2022 yng nghategorïau Plant a Phobl Ifanc a Barn y Bobl, ac a gyhoeddwyd wedyn yn Saesneg fel The Five gan Firefly Press. Dynolwaith, a ysgrifennodd ac a berfformiodd i Frân Wen dan gyfarwyddyd Gethin Evans, yw ei sgript gyhoeddedig gyntaf.