Llio Maddocks

Llio Maddocks

 Llio Maddocks

Mae Llio Elain Maddocks yn fardd ac yn awdur, yn wreiddiol o Lan Ffestiniog ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2014, a derbyniodd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn 2019.

Mae ei cherddi i’w gweld ar ei thudalen Instagram (@llioelain), a chyhoeddodd ei chasgliad gyntaf o farddoniaeth, Stwff ma hogia ‘di deud wrtha fi (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn 2021.

Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Twll Bach yn y Niwl (y Lolfa, 2020), restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori ffuglen, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2021.