Meinir Pierce Jones

Meinir Pierce Jones

Daw Meinir Pierce Jones o Nefyn yn Llŷn. Mae wedi ennill ei bywoliaeth drwy ddefnyddio geiriau – fel cyfieithydd, golygydd ac awdur i blant ac oedolion. Rhwng 2011 a 2019 bu'n swyddog prosiect, yn arwain y gwaith o ailagor a rheoli Amgueddfa Forwrol Llŷn. Enillodd ei nofel hanesyddol, Capten, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.