Mae Miriam Elin Sautin yn ysgrifennu yn Gymraeg gyda chlust wedi'i thiwnio at fannau eraill. Treuliodd haf yn gwirfoddoli ar fferm almonau yn Sbaen, a bu'n byw wedyn yng ngorllewin Andalucía, ac arhosodd y lleoedd hynny mor fyw yn ei chof nes troi'n nofel gyntaf iddi. Mae'n disgrifio La Salamandra mewn tri gair – dirgel, cignoeth a synhwyrus – ac yn gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gorffen yn teimlo eu bod wedi teithio i dde Sbaen, ac yn awyddus i greu, chwarae ac arbrofi.