Mae Non Prys Ifans yn byw yng Nghaernarfon gyda'i theulu. Pan nad yw'n ysgrifennu barddoniaeth neu ficro-ffuglen yn Gymraeg neu'n Saesneg, mae'n gweithio fel Therapydd Iaith a Lleferydd. Mae ganddi radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg, a chyhoeddwyd ei gwaith gan Poetry Wales, Taliesin ac Arachne Press. Crocodeil yn Berwi Tegell (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2025) yw ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.