Owen Sheers

Sheers, Owen

Cafodd Owen Sheers ei eni yn Fiji yn 1974 ac fe'i magwyd yn Llundain ac yn Y Fenni. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Newydd, Rhydychen ac yna ennill MA mewn ysgrifennu creadigol ym mhrifysgol East Anglia. Cafodd ei gyfrol gyntaf, The Blue Book (Seren, 2000), ei chynnwys ar restr fer gwobr Forward am y gyfrol gyntaf orau, ac ar restr fer gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Lyfr y Flwyddyn 2001. Fe enillodd Owen Sheers hefyd wobr Eric Gregory a gwobr Awdur Ifanc Vogue yn 1999. Cafodd ei enwi gan The Independent on Sunday yn un o'r trideg awdur ifanc gorau ym Mhrydain. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o ryddiaeth, The Dust Diaries yn 2004 gan Faber & Faber, sef cyfrol wedi ei seilio ar hanes ei daid yn Zimbabwe. Cafodd ei dewis ar gyfer rhestr fer Gwobr Ondaatje y Royal Society of Literature ac fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Enillodd ei ail gyfrol o farddoniaeth, Skirrid Hill (Seren, 2005) wobr Somerset Maugham y Society of Authors.

Cafodd ei nofel gyntaf, Resistance ei chyhoeddi gan Faber & Faber yn 2007 ac mae wedi ei haddasu'n ffilm. Cyhoeddwyd ei ail nofel, I Saw a Man (Faber) yn 2015, a dewiswyd i Silff Lyfrau y Gyfnewidfa yn yr un flwyddyn. Mae'r nofel wedi cael ei gyfieithu i'r Ffrangeg a Chroatieg, a llwyddodd y cyfieithiad Ffrangeg cyrraedd rhestr fer y Prix Femina Etranger. 

Enillodd Pink Mist (Faber & Faber, 2013) drama fydr am dri milwr ifanc o Fryste a gaiff ei hanfon i ymladd yn Afghanistan wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2014.

Ef yw’r Cadeirydd (Iaith Saesneg) PEN Cymru.

Cafodd The Green Hollow, sydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau trychinebus Aberfan, ei gynnwys ar y Silff Lyfrau 2018.

Ffilmiau cysylltiedig