Rachel Trezise

Rachel Trezise

Ewch i'r Wefan
 Rachel Trezise

Ganwyd Rachel Trezise yng Nghwm Rhondda yn 1978. Astudiodd ym mhrifysgolion Morgannwg a Limerick yn Iwerddon. Roedd ei nofel gyntaf, In and Out of the Goldfish Bowl (Parthian, 2000) yn un o enillwyr Orange Future Awards 2001 ac fe'i cyhoeddwyd yn Eidaleg gan Einaudi. Fe'i gwahoddwyd i fynd ar daith i nifer o wyliau llenyddol Ewropeaidd yn 2002 fel rhan o fenter Scritture Giovani sy’n cyflwyno cenhedlaeth newydd o awduron Ewropeaidd.

Yn 2006, enillodd Wobr gyntaf Dylan Thomas am Fresh Apples. Cyhoeddwyd Dial M for Merthyr, ei thrydydd llyfr, yn 2007. Perfformiwyd ei ymgais gyntaf ym myd theatr, I Sing of a Maiden – sgwrs rhwng yr hen a’r cyfoes yn archwilio beichiogrwydd yn yr arddegau a gydblethwyd â chanu gwerin gan Charlotte Greig – i theatrau llawn yng Nghymru yn 2007. Darlledwyd ei drama radio gyntaf, Lemon Meringue Pie, ar BBC Radio 4 ym mis Medi 2008.

Cyhoeddwyd ei nofel Sixteen Shades of Crazy gan Blue Door yn 2010. Cyhoeddwyd Cosmic Latte, casgliad o straeon byrion, gan Parthian yn 2013 ac enillodd yr Edge Hill Prize Readers Awards yn 2014. Cynhyrchwyd ei drama gyntaf, Tonypandemonium, gan National Theatre Wales yn 2013 ac enillodd Theatre Critics of Wales Award am y cynhyrchiad gorau. Dangoswyd ei hail ddrama ar gyfer National Theatre Wales, We're Still Here, am y tro cyntaf ym mis Medi 2017. Teithiodd ei drama ddiweddaraf, Cotton Fingers, hefyd ar gyfer National Theatre Wales, i Iwerddon a Chymru yn ddiweddar. Yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2019 fe'i dewiswyd gan The Stage fel un o'r sioeau gorau yn yr ŵyl a derbyniodd Wobr Summerhall Lustrum.

Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, Daneg, Serbeg ac Eidaleg.

Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Easy Meat, gan Parthian ym mis Mehefin 2021 ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021.