Cia Rinne

Cia Rinne

 Cia Rinne

Ganwyd Cia Rinne (1973) yn Gothenburg, Sweden ac mae ganddi MA mewn athroniaeth (Frankfurt, Athens, a Helsinki). Mae'n byw ac yn gweithio yn Berlin.

Mae ei chyhoeddiadau barddoniaeth yn cynnwys zaroum (2001), y gwaith ar-lein, archives zaroum (2008), notes for soloists (OEI Editör, Stockholm 2009), a'r gwaith sain sounds for soloists (2011) yn ogystal â llyfr yn dogfennu hanes y bobl Roma (The Roma Journeys, gyda Joakim Eskildsen, Steidl 2007).

Ymysg ei harddangosfeydd diweddar y mae sioe Terra infirma yn yr ISCP yn Efrog Newydd 2010, Bienale Turku 2011, a sioe undyn testun a sain yn y Grimmuseum yn Berlin 2012.