Mae Robert Simonišek (1977) yn awdur, beirniad, bardd, cyfieithydd a hanesydd celf o Slofenia. Ymddangosodd ei nofel, The Room below the Castle (2013) ar restr fer y Kresnik, Gwobr Booker Slofenia.
Mae gwaith llenyddol Simonišek yn gweu teithio gyda chwestiynau dirfodol ynghyd a phrofiadau unigol yr awdur yn ymwneud a natur, cymdeithas a chelf. Mae ei waith ym menthyg ei lais i ddeallusion sy'n teimlo arwahan neu sy'n cael trafferth gyda bywyd o ddydd i ddydd, syniadau gwleidyddol a chyfundrefnau.
Mae ei waith wedi ei gyfieithu i'r Croateg, Serbeg, Tsiec, Sbaeneg a'r Saesneg, ac wedi ymddangos mewn sawl blodeugerdd. Mae'n byw yn Celje.
Fis Tachwedd 2015, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru mewn cydweithrediad a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn croesawu Robert Simonišek i Aberystwyth ar breswyliad mis. Yn ystod ei breswyliad fe fydd yn cyfarfod ag awduron ac ysgolheigion er mwyn dod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well, ac yn cymryd rhan mewn darlleniad cyhoeddus.