Wolfgang Schamoni

Wolfgang Schamoni

 Wolfgang Schamoni

Ganwyd Wolfgang Schamoni yn 1941, a’i fagu yn ardal Ruhr yn yr Almaen. Wedi gadael yr ysgol, fe aeth yn gyntaf i astudio celf yn Academi Düsseldorf, cyn newid i Brifysgol Bonn, gan arbenigo mewn astudiaethau Japaneaidd. Hyd 2006, bu’n Athro mewn astudiaethau Japaneaidd ym Mhrifysgol Heidelberg, gan ganolbwyntion yn benodol ar lenyddiaeth rhwng yr ail ganrif ar bymtheg ar ugeinfed ganrif. Yn sgil ei ddiddordeb mewn ieithoedd lleiafrifol, dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1989. Trodd dim mwy na diddordeb yn ymrwymiad tuag at yr iaith a’i llenyddiaeth. Ei “gariad cyntaf” oedd Kate Roberts. Yn 2000, cyhoeddodd gasgliad o straeon byrion Kate Roberts mewn Almaeneg (cyhoeddwyd argraffiad estynedig yn 2009). Bellach mae ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg wedi ymestyn i gynnwys awduron eraill yr ugeinfed ganrif (Alun Llywelyn-Williams ymysg eraill) a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (Daniel Owen). Ym mis Ionawr 2014 croesawyd i Gymru fel cyfieithydd preswyl.