Sioned Wyn Roberts

Sioned Wyn Roberts

Mae Sioned Wyn Roberts yn frodor o Bwllheli ond yn byw yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio i'r BBC ac S4C am nifer o flynyddoedd, gan arbenigo mewn rhaglenni plant - comisiynodd amrywiaeth eang o allbwn, o Cyw i Stwnsh. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2022 am ei nofel hanesyddol i ddarllenwyr yn eu harddegau, Gwasg y Nos; Cyhoeddwyd ei hail deitl ffuglen i oedolion ifanc, Wyneb yn Wyneb, yn 2023, a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolionm 'Madws' yn 2024.