Steffan ap Carys

Steffan ap Carys

Artist ac ymchwilydd o Aberteifi yw Steff ap Carys. Enillodd radd BA mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ddoethuriaeth ym maes ffilmgerddi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Pan nad yw'n ysgrifennu, mae'n canu gyda chôr Ar ôl Tri, yn joio sangria yn yr haul, ac yn crwydro ar ei feic neu yn ei fŵts cerdded.