Tudur Owen

Tudur Owen

Actor, digrifwr a chyflwynydd teledu a radio o Gymru yw Tudur Owen, a ddechreuodd ysgrifennu a pherfformio comedi stand-yp yn 1999. Mae'n perfformio'n gyson yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, yn ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae wedi ennill BAFTA fel sgriptiwr teledu, ac mae wedi cyhoeddi un nofel, Y Sŵ (Gwasg Carreg Gwalch, 2014). Cyd-ysgrifennodd y gomedi glodwiw Tourist Trap i BBC Cymru. Yn 2022 dyfarnodd Prifysgol Bangor radd Doethur mewn Llenyddiaeth er anrhydedd iddo.