Christine Evans

Christine Evans

 Christine Evans

Ganwyd Christine Evans yn Swydd Efrog, Lloegr. Symudodd i Gymru yn 1967, ac ymgartrefodd ym Mhenrhyn Llŷn, gan hefyd fyw ar Ynys Enlli. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyfnodolion megis The Oxford Magazine, Planet a Poetry Wales a gellir ei ddarllen mewn blodeugerddi megis Anglo-Welsh Poetry 1480-1990 (gol. R. Garlick a R. Mathias, Seren 1990), a Twentieth Century Anglo-Welsh Poetry (gol. D. Abse, Seren 1997). Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Ffrangeg (Sans moutons ni dragons, gol. T. Curtis) a’r Tsieceg (Drak ma dvoji jazyk, gol. P. Mikes, Periplum 2000). Yn 2005, dyfarnwyd Gwobr Roland Mathias iddi. Ei chasgliadau diweddaraf o farddoniaeth ydy Burning the Candle (Gomer, 2006) a Growth Rings (Seren, 2006) a dewiswyd hwy ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn.