Mareike Krügel

Mareike Krügel

Ewch i'r Wefan
 Mareike Krügel

Ganwyd Mareike Krügel yn Kiel yn 1977. Astudiodd yn Sefydliad Llenyddiaeth Yr Almaen yn Leipzig. Yn 2003 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Die Witwe, der Lehrer, das Meer (Y Weddw, Yr Athro, Y Môr). Mae hi'n byw ac yn ysgrifennu mewn tref yn nghyffiniau Schleswig, Yr Almaen. Gwobrwywyd Mareike Krügel gyda nifer o ysgoloriaethau, gan gynnwys preswyliad yn Villa Decius, Krakow a phreswyliad HALMA gyda Thŷ Cyfieithu Cymru. Enillodd wobr ar gyfer yr awdur ifanc mwyaf addawol gan ddinas Hamburg am ei nofel, Die Tochter meines Vaters (Merch fy Nhad). Yn 2006 enillodd wobr Friedrich-Hebbel. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Bleib wo du bist (Aros lle'r wyt ti) yn 2010 gan Schöffling & Co.