Sunandan Roy Chowdhury

Sunandan Roy Chowdhury

 Sunandan Roy Chowdhury

Mae Sunandan Roy Chowdhury (g. 1969) yn fardd, cyfieithydd, cyhoeddwr ac academydd. Ei waith mwyaf nodedig yw cyfieithiad Saesneg o Banalata Sen, llyfr o farddoniaeth gan Jibanananda Das, y bardd Bengali/Indiaidd pwysicaf ers Rabindranath Tagore.

Mae wedi cyfieithu llenyddiaeth Sgandinafaidd i’r Fengaleg ac yn ystod ei breswyliad yn Nhŷ Cyfieithu Cymru yn ystod Ionawr 2013, bu’n gweithio ar gyfieithiad o O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price (Rebeka Jones er katha).

Cyhoeddwyd Chupnagar, ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Bengaleg, yn 2012. Mae’n ysgrifennu yn Fengaleg ac yn Saesneg. Mae ei farddoniaeth wedi ei gyhoeddi yn Saesneg (The Brown Critique, Delhi a Knot, UDA), Ffinneg (PEN Suomi, Helsinki) a Sloeneg (Sodobnost, Ljubljana).

Astudiodd Sunandan hanes yn Presidency College, yn Calcutta ac ym Mhrifysgol Jawaharlal Nehru, New Delhi. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn addysg, yn arbenigo ym mholisi addysg uwch India, o Brifysgol Delhi. Mae’n gyn-fyfyriwr y Sefydliad Cymdeithas Agored, Budapest, ac mae wedi darlithio ar India ac Ewrop Gyfoes mewn prifysgolion a sefydliadau ar hyd a lled y byd. Mae’n awdur ar Campus Nation: Student Activism and Social Change in Slovenia, Poland, India and Bangladesh (Worldview, Calcutta, 2006) ac yn gyd-olygydd ar Islam and Tolerance in Wider Europe (Gwasg CEU, Efrog Newydd, 2006). Mae Sunandan wedi ysgrifennu ar gyfer Mainstraem (New Delhi), Ha’artez (Jeriwsalem), Dagens Nyheter (Stockholm), Mint (Mumbai), FT.com, a Matrubhumi (Kozhikode).

Mae SAMPARK, y cyhoeddwyr llenyddol-academaidd yn Calcutta y sefydlodd ef yn 1999, wedi ymrwymo i ddod â chyfieithiadau Saesneg ac ieithoedd India o lenyddiaeth o bob cwr o’r byd yn ogystal â llyfrau ar wyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau. Lansiwyd yr argraffiad YOUNG SAMPARK yn 2012 i gyhoeddi llyfrau plant yn Saesneg ac yn ieithoedd India.