Un Nos Ola Leuad

yn ôl
Clawr Un Nos

Un Nos Ola Leuad(One Moonlit Night)

Clasur Caradog Prichard am blentyndod cythryblus mewn pentref chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen.

'Os oes unrhyw nofel Gymraeg erioed sydd wedi llwyddo i gyfareddu darllenwyr ac ennyn ymateb cyson-ysgubol, Un Nos Ola Leuad yw honno. Byth oddi ar ei chyhoeddi dros hanner can mlynedd yn ôl mae wedi hawlio’i lle fel nofel fodernaidd a gydiodd yn nychymyg cenedlaethau o ddarllenwyr Cymraeg. Ac nid darllenwyr Cymraeg yn unig, oherwydd fe’i cyfieithwyd i nifer o ieithoedd eraill yn cynnwys y Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Iseldireg, Sbaeneg a’r Hebraeg, sy’n cadarnhau ei hapêl gyffredinol fel darn o lenyddiaeth greadigol sy’n gallu swyno dyn.

Uchafbwynt y tristwch yn y nofel yn ddiau yw fod mam y prif gymeriad yn dioddef o salwch meddwl, a bod ei chyflwr yn dirywio i’r fath raddau yn y diwedd nes bod yn rhaid ei chludo i’r Seilam. Dyna’r chwalfa yn hanes y Bachgen. Fe’i gadewir bron yn amddifad ar ôl hynny, yn enwedig pan gofiwn iddo hefyd golli cwmni dau o’i ffrindiau mwyaf mynwesol, sef Moi, a fu farw o’r diciâu, a
Huw, sy’n mudo gyda’i deulu i’r De.

Nid yw’r lleuad byth ymhell o ganol llif naratif y nofel. Mae modd cael cip ysbeidiol arni wrth i’r Adroddwr deithio drwy’r pentref a chyrraedd Pen Llyn Du. Mae’n bresenoldeb parhaus, ac yn gyfochrog â’r cipolygon a gawn arni mae cyfres o hanesion am ddigwyddiadau amrywiol, rhai ohonynt yn ddoniol a difyr, bywiog a chyffrous, ac eraill yn dywyll a thrist. Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn bwrw ei gysgod creulon dros gyfnod ei blentyndod, ac mae afiechyd yn hawlio un o’i ddau ffrind pennaf.'

(Bleddyn Owen Huws, CAA Prifysgol Aberystwyth, 2018)

Fideos

Adolygiadau

“This is a heart-wrenching work, to be read and re-read; a classic.”

The Daily Telegraph