07 Mehefin 2012
Dyma'r flodeugerdd gyntaf wedi ei chysegru i ffurf lenyddol newydd sy'n dibynnu ar 62 gair yn unig. Ceir cyfraniadau o blith prosiectau tebyg yn y V&A, Amgueddfa Ulster ac Amgueddfa Genedlaethol Yr Alban. Ceir cyfraniadau hefyd gan feirdd megis Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, Andrew Motion ac Alexander McCall Smith. Y bwriad oedd adrodd y straeon y tu ôl i'r gwrthrychau ac ysbrydoli ymwelwyr i ddod i'r amgueuddfeydd neu i ymweld â'r casgliadau arlein ac i ystyried y trysorau mewn golau newydd.
Yn yr adran ar drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol, ceir 26 darn, sef 13 yn Gymraeg a 13 yn Saesneg, ochr yn ochr â delweddau trawiadol. Trefnwyd y prosiect gan y grwp 26, mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Thŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.
Ymunodd Tŷ Cyfieithu yn y prosiect i gomisiynu cyfieithiadau o bob un o'r testunau gwreiddiol. Cyfieithwyd bob darn i'r iaith arall, gan gadw at y rheol o 62 gair i bob darn. Cyflwynwyd y cyfieithiadau i'n cystadleuaeth Her Gyfieithu y llynedd. Arddangoswyd y gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o'r Her Gyfieithu a drefnwyd ar y cyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd. Gwobrwywyd y bardd Hywel Griffiths gyda'r ffon farddol am ei gyfieithiad o ddarn Lin Sagovsky, 'Old banknotes'. Roedd yn gamp oherwydd roedd darn gwreiddiol Lin - wedi ei ysbrydoli gan bapurau arian o'r 19fed ganrif - yn tynnu ar sloganau hysbysebu.
Manylion pellach
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio am 2 o'r gloch y prynhawn ar ddydd Mawrth y 12fed o Fehefin, yn Stafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Bydd Her Tŷ Cyfieithu 2012 yn cael ei lansio yn yr un digwyddiad.
Bydd y gyfrol (£10 am gopi electronaidd, £18 am gopi clawr caled), yn cael ei hanfon at danysgrifwyr fis Mehefin, a'r ail argraffiad yn cael ei ddosbarthu i'r siopau trwy Faber fis Medi 2012. Mae modd prynu'r gyfrol trwy'r wefan www.unbound.co.uk/books/26-treasures.
I ddarllen y cerddi, y cyfieithiadau a rhai o'r straeon y tu ol iddynt, ymwelwch â www.26treasures.com