24 Mai 2016
Cafwyd noson arbennig nos Fercher, 18 Mai, ym mwyty Ultracomida yn Aberystwyth wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru a'i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Croesawyd pawb yno ar ddechrau’r noson gan Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr Mercator, a’i hanerchiad oedd yn pennu naws hwyliog y noson.
Roedd digonedd o fwyd Sbaenaidd i’w fwynhau a’i rannu yn awyrgylch gymdeithasol y bwyty tapas, ac roedd y sgyrsiau a’r gwin yn llifo. Yn dilyn sawl cwrs, a phawb wedi cael llond eu boliau, daeth cyfle i glywed am ddau gylchgrawn llenyddol eu natur, y naill yn gylchgrawn a gyhoeddir yn India sy’n ymdrin â gwleidyddiaeth a diwylliant, a’r llall yn gylchgrawn Cymraeg newydd sbon sydd ar y gweill. Arwel Rocet Jones o’r Cyngor Llyfrau oedd yn cadeirio’r noson ac yn holi Anjum Hasan, golygydd llyfrau cylchgrawn Saesneg The Caravan, ac Owen Martell, un o olygyddion y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.
Diddorol oedd clywed am gylchrediad cylchgrawn The Caravan lle caiff 40,000 o gopïau eu hargraffu gan wasg Delhi Press bob mis. Pwysleisiodd Anjum Hasan fod y cyswllt rhwng llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn un pwysig i’r cylchgrawn, a rhoi lle i drafod llenyddiaeth o India yn bennaf a wna’r colofnau llenyddol sydd dan ei golygyddiaeth. Mae’n ymddangos fod y cylchgrawn yn darparu ar gyfer cynulleidfa sy’n tyfu o hyd yn India, cynulleidfa addysgedig sy’n ymddiddori mewn dulliau newyddiadura Americanaidd, ac sydd am i’r dull hwnnw gael ei fabwysiadu er mwyn trafod gwleidyddiaeth a diwylliant India. Nododd Anjum Hasan hefyd nad erthyglau sy’n ymateb i ddigwyddiadau ar y pryd a newyddion y dydd mo’r erthyglau a gomisiynir ar gyfer y cylchgrawn, ond yn hytrach ddarnau sy’n gofyn gwaith ymchwil trylwyr ac sydd o ddiddordeb ehangach i’r gynulleidfa.
Sôn am amcanion llenyddol O’r Pedwar Gwynt, ac am y deunydd a fydd yn ymddangos ar-lein a wnaeth Owen Martell. Bydd arddull a diwyg papur newydd i’r cylchgrawn newydd hwn y bydd y rhifyn cyntaf yn ymddangos mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Y syniad yw cynhyrchu rhywbeth hygyrch i gynulleidfa eang gan ‘weld y byd trwy dudalennau llyfrau,’ yn ôl yr awdur a fydd yn cyd-olygu’r cylchgrawn â Sioned Puw Rowlands, cyn-gyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru. Soniodd Owen Martell rywfaint am y cynnwys a fydd ar gael ar-lein gan awgrymu y byddai ysgrifau ac erthyglau cyfan yno i’w darllen yn hytrach na phytiau yn unig. Bydd modd tanysgrifio i’r cylchgrawn ganol Mehefin, a bydd deunydd yn dechrau ymddangos ar y wefan ddechrau Gorffennaf.