06 Mehefin 2012
Mae Prosiect Aomori yn cyfuno ymchwil a pherfformio, ac ar fynd ers 2008. Mae dawnswyr, cerddorion a chantorion o ogledd Siapan, Cymru, Prydain ac Ewrop wedi bod yn rhan ohono.
Mae Aomori yn ardal Tsugaru, ym mhendraw gogleddol ynys Honshu, ac yn profi gaeafau artig. Mae'r cawodydd eira tawel, ailadroddus yn ddidrugaredd; yn yr amgylchedd eithafol hwn mae'r corff dan bwysau i addasu.
Manylion y lansiad
Mae'r llyfr a'r CD sydd wedi eu creu fel rhan o'r prosiect a'r preswyliad yn cael eu lansio ar ddydd Iau y 7fed o Fehefin, 6-8pm, Ystafell Siapan, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd. Bydd cyfle i weld perfformiad byw yng nghanolfan Chapter, Caerdydd ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fehefin.
Cefnogir y daith a'r cyhoeddiad gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Great Britain Sasakawa Foundation, Chapter, ARTizan, Aomori, Joshibi University of Art & Design, Tokyo, Tŷ Newydd, Tŷ Cyfieithu Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru a Greenwich Dance.
Cafwyd buddsoddiadau gan The Saison Foundation + EU Japan Fest Japan Committee, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, The Daiwa Anglo Japanese Foundation, Japan Foundation.