Gwobrwyo Enillydd Saesneg Her Gyfieithu 2016

Gwobrwyo Enillydd Saesneg Her Gyfieithu 2016

28 Ebrill 2016

B7 BC3 F61 7863 4 A33 97 F3 831 DBDD7 B724 1

Bydd enillydd Saesneg yr Her Gyfieithu eleni yn cael ei wobrwyo mewn digwyddiad gan PEN Cymru yng Ngŵyl y Gelli ar 28 Mai 2016 am 4pm yn y Tŷ Haf (Summer house).

Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd Sbaeneg ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano, a beirniad y cynigion Saesneg a ddaeth i law oedd yr Athro Richard Gwyn. Ned Thomas oedd yn beirniadu’r cynigion Cymraeg, a chaiff enillydd y categori hwnnw ei enwi a’i wobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.

Yn ogystal â thraddodi’r feirniadaeth a gwobrwyo’r enillydd Saesneg â £250 yng Ngŵyl y Gelli, bydd cyfle hefyd i wrando ar gyflwyniadau a thrafodaethau gydag awduron sy’n ffoaduriaid, a chlywed am gynlluniau PEN Cymru i gydweithio â’r awduron hynny yng Nghymru.

Croeso cynnes i bawb.