26 Mai 2017
Bydd enillydd Saesneg yr Her Gyfieithu eleni yn cael ei wobrwyo mewn digwyddiad gan Wales PEN Cymru yng Ngŵyl y Gelli, ddydd Mawrth, 30 Mai 2017 am 5yh yn y Tŷ Haf ar safle'r ŵyl.
Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd gan y bardd o Dwrci küçük İskender i'r Saesneg. Y beirniad yw'r bardd a'r cyfieithydd Caroline Stockford. Gwobrwyir y buddugol gyda £250 - yn rhoddedig gan Brifysgol Abertawe.
Gwaith Nâzım Hikmet (1902–1963) yw'r Her Gyfieithu i'r Gymraeg eleni ac mae cyfle i gystadlu o hyd. Caiff enillydd y categori hwnnw ei gyhoeddi a’i wobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.
Yn ogystal â thraddodi’r feirniadaeth a gwobrwyo’r enillydd Saesneg â £250 yng Ngŵyl y Gelli, bydd cyfle hefyd i wrando ar ddarlleniadau a pherfformiadau gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Croeso cynnes i bawb. Gweinir gwin, diodydd meddal a danteithion rhyngwladol.
Partneriaid Her Gyfieithu 2017 yw: Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, PEN Cymru a Phrifysgol Abertawe.