18 Rhagfyr 2014
Bydd Catrin Cooke, Rheolwr Diwylliant desg wybodaeth Ewrop greadigol yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am y gronfa Cyfieithu Llenyddol yn benodol, yn ogystal a chyfleodd eraill i wneud cais am gyllid Ewrop Greadigol. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ewrop Creadigol yw 5 Chwefror 2015.
Bydd cynrychiolwyr o weisg yn Lloegr yn ymuno gyda ni i drafod eu profiad o’r gronfa, tra bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn rhoi blas o’r hyn sy’n bosib trwy dderbyn grant Ewrop Greadigol a'r cyd destun yng Nghymru.
Cynhelir y digwyddiad yn Llyfrgell Sefydliad Mercator, Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, 9 Ionawr 2015 o 13:00yh.
I gadw lle, ewch i wefan digwyddiadau Swyddfa Ewrop Greadigol y Deyrnas Unedig yma.