01 Mai 2013
Yr hyn sy'n werthfawr am Fiction Fiesta yw ei bod yn gosod llenyddiaeth Cymru ochr yn ochr â llenyddiaeth o dramor. Mae'r penwythnos eleni (17-18 Mai, 2013) yn dod ag enwau cyfarwydd megis Andrés Neuman (Traveller of the Century) a Tiffany Atkinson (Catulla et al) yn ôl i Gaerdydd, tra'n cyflwyno awduron cyfarwydd yn rhyngwladol megis Inés Garland (Piedra, Papel o Tijera) ac Eduardo Halfon (The Polish Boxer) i Gymru a Phrydain.
Bydd Sioned Puw Rowlands o'r Gyfnewidfa yn cymryd rhan mewn panel gyda Alexis Nuselovici, Amanda Hopkinson, Boyd Tonkin ac WN Herbert.
Mae Fiction Fiesta yn cael ei chartrefu gan Brifysgol Caerdydd. Inés Garland sydd yn y llun.