Seremoni Wobrwyo’r Her Gyfieithu 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Seremoni Wobrwyo’r Her Gyfieithu 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol

15 Gorffennaf 2019

Seremoni wobrwyo4

Cynhelir ein digwyddiad arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Conwy eleni i ddathlu enillydd yr Her Gyfieithu 2019.

Yr her eleni oedd cyfieithu dwy gerdd gan y bardd Pwyleg, Julia Fiedorczuk.

Byddwn yn cyhoeddi’r cyfieithiad buddugol mewn seremoni ym mhabell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar yr 8fed o Awst am 3 o’r gloch. Bydd y beirniad, Dr Aled Llion Jones, yn rhoi ei feirniadaeth ac yn annerch yr enillydd, a fydd yn derbyn gwobr o £200 yn ogystal â’r Ffon yr Her Gyfieithu, rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar y diwrnod.

Bydd diodydd a danteithion Pwylaidd a chroeso i bawb!