Ifor ap Glyn yn cydweithio â beirdd o'r Alban, Gwlad yr Iâ, Y Ffindir a Latfia

Ifor ap Glyn yn cydweithio â beirdd o'r Alban, Gwlad yr Iâ, Y Ffindir a Latfia

01 Mawrth 2013

Ifor ap Glyn Stanza

Bydd Ifor ap Glyn yn treulio wythnos yn cydweithio â'r beirdd Charlotte Runcie (Yr Alban), Magnús Sigurðsson (Gwlad yr Iâ), Matilda Södergran (Y Ffindir/Sweden) ac Arvis Viguls (Latfia) yn Yr Alban mewn gweithdy cyfieithu wedi ei drefnu gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau a'r Scottish Poetry Library fis Mawrth. Bydd y beirdd yn perfformio yng ngŵyl farddoniaeth StAnza yn St. Andrews ar bnawn Sadwrn y 9fed o Fawrth, 2013.