06 Medi 2017
Digwyddiad blynyddol ar gyfer y gymuned gyfieithu yw Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Mae’n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, blogwyr ac adolygwyr i gyfarfod a rhwydweithio, trafod heriau, datblygiadau a materion o bwys o fewn y sector yn ogystal a dathlu llwyddiant.
Eleni mae’r rhaglen yn cynnwys seminarau ar gyfieithu barddoniaeth, rhywedd, rhywioldeb a chyfieithu, cyfieithu llenyddiaeth plant, cyfieithu hawliau dynol a chyfieithu llenyddiaeth Arabeg.
Ymysg siaradwyr mae Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.
Cyflwynir y diwrnod gan Free Word, English PEN a’r Llyfrgell Prydeinig mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Prydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (BCLT), Rhwydwaith y Cyfieithwyr sy'n dod i'r Amlwg, Cymdeithas y Cyfieithwyr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Words Without Borders, Canolfan Ysgrifennu Norwich a Chyfnewidfa Lên Cymru.
Gellir gweld y rhaglen yn llawn yma.
Mae tocynnau ar gael drwy wefan Y Llyfrgell Prydeinig.