Lee Seung-U yn sgwrsio gyda Francesca Rhydderch

Lee Seung-U yn sgwrsio gyda Francesca Rhydderch

21 Chwefror 2014

Lee seungu

Lee Seung-U yn sgwrsio gyda Francesca Rhydderch: Digwyddiad wedi ei drefnu gan Gyfnewidfa Lên Cymru, mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig i nodi Korea fel Ffocws y Farchnad yn Ffair Lyfrau Llundain 2014.

A hithau newydd ddychwelyd o Ddwyrain Asia, Francesca Rhydderch, awdur The Rice Paper Diaries (Seren, 2013) sy’n sgwrsio gyda Lee Seung-U, un o nofelwyr athronyddol amlycaf Korea.

Drwy gydol ei yrfa, mae Lee Seung-U wedi cynnal diddordeb mewn cwestiynau diwinyddol a metaffisegol. Adlewyrchir hyn yn ei arddull sy’n disgrifio’n fanwl synfyfyrio fewnol-gymhleth dynoliaeth. Mae ei waith yn ymwneud â chwestiynau moesol beunyddiol bywyd yn ogystal â chwestiynau oesol am dduw, iachawdwriaeth ac euogrwydd. Mae In the Beginning, There Was the Temptation, addasiad o lyfr Genesis, yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn cwestiynau diwinyddol. Pan gyhoeddwyd cyfieithiad o’i nofel The Reverse Side of Life yn Ffrainc, nofel sy’n ymwneud ag euogrwydd, nododd Le Monde: “Dwys ar brydiau, ond eto’n llifo’n rhwydd, dyma nofel rymus sy’n cyffwrdd i’r byw gan enaid tawel a difrifol a fydd yn siŵr o ddenu diddordeb gwir aficionados llenyddol.”

Dydd Gwener, Ebrill 11eg Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg, Aberystwyth, 6:00yh. Bydd derbyniad gwin yn dilyn.

I gadw lle, cysylltwch â post@cyfnewidfalen.org (£5.00 / £3.00 | Mynediad am ddim i’r di-waith).

Darllenwch Gwestiwn ac Ateb gyda Lee Seung-U ar wefan y Cyngor Prydeinig.

'Kudos to South Korea' Stefan Tobler o And Other Stories sy’n ysgrifennu yn y The Bookseller yn dilyn ei daith i Dde Korea gyda’r Cyngor Prydeinig.