17 Chwefror 2016
Cynhelir seminar gyhoeddus ddydd Mercher, 24 Chwefror, am 4:00 yn Ystafell Gyfarfod ALlICC yn adeilad Hugh Owen gan Ielyzaveta Stefanova a fydd yn trafod y lenyddiaeth sy’n codi o ardaloedd glofaol y Donbass yn yr Wcrain, Lusatia (sef ardal y Sorbiaid yn hen ddwyrain yr Almaen), a Chymru. Trafodir y cyd-destun hanesyddol sy’n sail i lenyddiaeth y cymunedau glofaol hyn, ac edrychir ar fel y caiff profiadau’r cymunedau eu hadlewyrchu yn eu llenyddiaeth.
Mae Ielyzaveta Stefanova yn fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Leipzig sydd ar ymweliad ag Aberystwyth ar hyn o bryd. Teitl ei phapur fydd ‘Historical circumstances of coal mining in Donbass, Lusatia and Wales and interrelated cultural perspectives’.