16 Mehefin 2015
Mae Meena Kandasamy yn fardd, awdur, ymgyrchydd a chyfieithydd sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddileu’r drefn cast, hunaniaeth ieithyddol a ffeministiaeth. Mae Mamta Sagar yn fardd a dramodydd sy’n ysgrifennu yn Kannada.
Bydd cyfle arbennig i glywed y ddwy mewn dau ddigwyddiad arbennig:
Waterstones, Aberystwyth, 24 Mehefin 2015, 18:00 – 19.30, Mynediad am ddim. // Croeso i bawb.
Mewn darlleniad arbennig yn siop lyfrau Waterstones, fe fydd y beirdd o India, Meena Kandasamy a Mamta Sagar yn ymuno a’r beirdd o Gymru, Eurig Salisbury a Hywel Griffiths. Trefnir y noson gyda Poetry Wales.
Canolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol 25 Mehefin 2015, 14:00 – 16:00, Mynediad am ddim. // Croeso i bawb.
Fe fydd Dr Meena Kandasamy yn trafod ‘Translation and the taboo of sex in the case of the Thirukkural’, testun Tamil o’r 3edd ganrif CC a Dr Mamta Sagar yn trafod ‘Translating poetry and politics beyond linguistic spaces’.
Cefnogir y digwyddiadau gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Poetry Wales.
Mae’r Ganolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol yn rhan o Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol (ALlICC), sy’n cynnwys yr adrannau academaidd canlynol: yr Ysgol Gelf, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Ewropeaidd, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau ewch i wefan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.