Gwyl fflach New under the sun

Gwyl fflach New under the sun

18 Medi 2014

New Under the Sun website

What has been will be again,

what has been done will be done again;

there is nothing new under the sun…

Gwyl fflach lenyddol ryngwladol yw New under the sun, a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng Hydref 16 -17 2014.

Nod yr wyl, a drefnir gan wasg Parthian, yw cyflwyno dramodwyr a nofelwyr newydd, gwaith mewn cyfieithiad a llawer mwy i bobl Cymru.

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o noddi digwyddiad ar lenyddiaeth ryngwladol, gynhelir nos Wener, Hydref 17eg yng Nghlwb y Cameo, Caerdydd am 8:00yh.

Mae Peter Krištúfek, Francesca Rhydderch a Fatos Lubonja ill tri yn awduron wedi ei gwobrwyo, o wledydd ar gyrion Ewrop, ac mae eu golwg wahanol ar hanes y ganrif ddiwethaf yn cyflwyno amrywiadau ar thema alltudiaeth fewnol.

Mae House of the Deaf Man, nofel Peter Krištúfek yn dilyn hynt teulu Slovak yn erbyn troeon ffawd gwleidyddiaeth canol Ewrop (Parthian, October 2014).

Lleolir nofel feddylgar gyntaf, Francesca Rhydderch, The Rice Paper Diaries (Seren Books), a enillodd wobr ffuglen (Saesneg) Llyfr y Flwyddyn 2014, yng Nghymru a Hong Kong yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

Ceir golwg unigryw a chythryblus ar Albania wedi cwymp y drefn Gomiwnyddol yn nofel Fatos Lubonja, False Apocalypse (ddaw allan gan wasg Istros Books fis Hydref 2014).

Cadeirir y digwyddiad gan Garry Raymond, Wales Arts Review, a’i gyflwyno gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a PEN Cymru mewn cydweithrediad a Parthian ac Istros Books. Mae tocynnau yn ₤3, ac ar gael wrth y drws.

Gwyl New under the sun, Hydref 16 – 17 2014, Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth am yr wyl ewch i’w gwefan yma neu dilynwch yr wyl ar trydar yma.