05 Mai 2016
Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o gefnogi prosiect cyffrous yr International Literature Showcase a fydd yn cael ei gynnal yn Norwich dros y ddwy flynedd nesaf. Rhaglen ydyw sy’n cael ei gefnogi gan British Council Wales, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru i hyrwyddo amryw o lenorion a pherfformwyr o’r Deyrnas Unedig yn rhyngwladol, ac annog a chefnogi cydweithio rhwng sefydliadau o bob cwr.
Gwahoddir awduron o Gymru, sy’n ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg, i ymgeisio am le yn y rhaglen, a dewisir o leiaf 5 o lenorion Cymru gan y panel i gynrychioli Cymru a’i llenyddiaeth. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 11 Mai 2016, ac mae’r wybodaeth ynghylch sut i wneud cais ar wefan Llenyddiaeth Cymru.