31 Mai 2012
Bydd Patrick McGuinness, sydd â'i nofel gyntaf, The Last Hundred Days, ar restr hir gwobr Booker eleni, yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf 10-13eg o Fai, 2012, ar wahoddiad Tŷ Cyfieithu Cymru. Mae'r ŵyl yn cael ei threfnu'n flynyddol gan Literaturhaus Schleswig-Holstein. Yn 2010, gwahoddwyd Siân Melangell Dafydd o Gymru, tra'r oedd yn awdur preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru-HALMA yn Sylt Quelle: Kunst Raum ar ynys Sylt.
Bydd Patrick yn ymuno â deg awdur a'u cyhoeddwyr o ddeg gwlad wahanol yn Ewrop. Cefnogir ei gyfraniad i'r ŵyl gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.