02 Awst 2017
Dydd Iau, 3 Awst am 6:00yh, yng Nghaffi Alys ym Machynlleth, fe fydd y beirdd Sampurna Chattarji, Subhro Bandopadhyay, Eurig Salisbury a Nicky Arscott yn darllen eu gwaith ac yn trafod eu prosiect, Cysylltiadau Barddonol, prosiect sy'n dod a deg bardd o Gymru ac India ynghyd drwy gyfres o breswyliadau, drefnir gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.
Mae'r prosiect yn rhan o flwyddyn diwylliant Cymru - India. Ceir mwy o wybodaeth am y prosiect yma.
Cefnogir y digwyddiad gan y Cyngor Prydeinig yng Nghymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.