11 Mawrth 2016
Daeth cynrychiolwyr Llywodraeth Cyrgistan i Gymru yn yr wythnos yn cychwyn Mawrth 7, 2016. Yng Nghaerdydd, trefnwyd eu rhaglen gan Lywodraeth Cymru, ac yn Aberystwyth gan Wales PEN Cymru (y gymdeithas awduron) a 'r Gyfnewidfa Lên / Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Y cynrychiolwyr oedd Toktobubu Ashymbaeva Abasovna, Dirprwy Weinidog Addysg a Gwyddoniaeth Gweriniaeth Cyrgistan, ac Ergeshov Zaiyrbek Jolchuevich, Dirprwy Bennaeth Adran Polisïau Crefyddol ac Ethnig y Weriniaeth, ac yr oedd ganddynt lawer o ddiddordeb mewn polisïau dwyieithog ym meysydd addysg, diwylliant a chyhoeddi. Trefnwyd bore cyfan o seminarau yn Sefydliad Mercator ar eu cyfer.
I'r grwp ieithoedd Twrceg y perthyn iaith y Cyrgis, ac fe'i siaredir gan fwyafrif poblogaeth y Weriniaeth. Serch hynny, fe'i gyrrwyd i'r ymylon gan bolisïau'r hen Undeb Sofietaidd o flaenoriaethu'r Rwsieg mewn llawer o feysydd. Nod llywodraeth bresennol Cyrgistan yw ail-orseddu Cyrgis fel iaith genedlaethol tra'n darparu hefyd ar gyfer y lleiafrif sylweddol Wsbec ei hiaith, sydd, fel y lleiafrifoedd llai eraill, wedi arfer defnyddio'r Rwseg fel lingua franca.