07 Gorffennaf 2015
Fe fydd y gynhadledd yn ymdrin â'r berthynas rhwng diwylliannau lleiafrifol a theithio, gan edrych yn benodol ar yr ymadawith rhwng teithwyr o bob rhan o'r byd a'r mannau maent yn ymweld â hwy a'i hymateb dogfennol ar hyd y canrifoedd. Mae'n bwnc hynod berthnasol yn dilyn datblygiadau yn yr Alban a Chatalwnia, ble mae hunaniaeth yn cael ei drafod mewn perthynas â hunaniaeth genedlaethol, hunanfynegiant ddiwylliannol a grymoedd gwleidyddol.
Mewn noson arbennig am ddim yn ystod y gynhadledd, fe fydd Ned Thomas yn sgwrsio gyda'r awdur ac enillydd Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen, Kirmen Uribe ynglŷn a'i gyfrol a gyhoeddwyd yng Nghymru gan wasg Seren yn ddiweddar, Bilbao New York Bilbao, a'r hyn mae'n ei olygu i fod yn awdur Basgeg yn y Sbaen gyfoes.
Teithio dros fôr Iwerydd: Dinasoedd mawrion ac Ynysoedd Preswyliedig: 14 Medi 2015, 7:00yh.
Mynediad am ddim, croeso i bawb.
Am fanylion pellach am y gynhadledd a'r prosiect , ewch i wefan Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru yma.