Her Gyfieithu 2016

Her Gyfieithu 2016

23 Chwefror 2016

IMG 5233

Mae’r Her Gyfieithu yn ei hôl eto eleni, ac yn cael ei threfnu gan Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe.

Yr her sy’n wynebu’r ymgeiswyr yw cyfieithu’r gerdd ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano, o’r Sbaeneg un ai i’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Ned Thomas fydd yn beirniadu’r cynigion Cymraeg eleni, a’r Athro Richard Gwyn fydd yn beirniadu’r cynigion Saesneg a ddaw i law. Bydd enillydd y cyfieithiad Cymraeg yn derbyn gwobr o £250 mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst ac yn cael ei anrhydeddu â Ffon Farddol a anrhegir unwaith eto gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Bydd y cyfieithiad yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt. Caiff enillydd y cyfieithiad Saesneg ei wobrwyo â £250 yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mai, ac fe gyhoeddir y cyfieithiad buddugol yn Poetry Wales.

Codir tâl o £6.00 er mwyn cystadlu, a rhaid i’r cynigion gael eu hanfon at Sally Baker erbyn hanner nos ar y 31ain o Fawrth, 2016.

Gellir talu’r ffi gystadlu, gweld testun llawn y gerdd, a chanfod mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth ar wefan PEN Cymru.