14 Mehefin 2013
I gyd-fynd â lansio Her Gyfieithu 2013, byddwn yn cynnal gweithdy cyfieithu barddoniaeth mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Arweinwyr y gweithdy fydd Víctor Rodríguez Núñez, ei gyfieithydd, Katherine Hedeen, a Ned Thomas. Bydd Víctor yn defnyddio’i farddoniaeth ei hun, yn yr iaith Sbaeneg, fel sail i’r gweithdy a bydd digon o gyfle i’r cyfranogwyr drafod beth sy'n digwydd wrth i farddoniaeth deithio ar draws ffiniau ieithyddol.
Nid yw gwybodaeth o’r iaith Sbaeneg yn hanfodol. Caiff y gweithdy ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg ond y bwriad yw cyfieithu i’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.
“Bydd y gweithdy yn cynnig blas ar yr hwyl yn ogystal â’r maglau wrth gyfieithu barddoniaeth,” meddai Sioned Puw Rowlands ar ran Tŷ Cyfieithu Cymru, a sefydlwyd gan y Gyfnewidfa Lên yn 2009 i hyrwyddo cyfieithu creadigol yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Sally Baker ar 01766 523 552.