Cymru ar Lwyfan y Byd: Cyfieithu ac Addasu yn y Theatr Gymraeg

Cymru ar Lwyfan y Byd: Cyfieithu ac Addasu yn y Theatr Gymraeg

08 Tachwedd 2016

AAA

Cynhelir cynhadledd undydd ar gyfieithu ac addasu yn y Theatr Gymraeg, ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2016, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nod y gynhadledd fydd ystyried dylanwad cyfieithiadau ac addasiadau ar y ddrama Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.

Mae astudiaethau cyfieithu yn y theatr wedi datblygu fel maes newydd yn ystod y degawdau diwethaf. Yn sgil prosiectau megis Cronfa Gyfieithiadau'r Gymraeg a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ceir diddordeb cynyddol ym maes astudiaethau cyfieithu yn benodol yn y Gymraeg. Ymhellach, addasiadau o wahanol gyfryngau a gwahanol ffurfiau yw sylfaen y theatr Gymraeg fel y’i hadwaenir hi heddiw.

Fel rhan o’r gynhadledd, bydd cyfle i glywed ymarferwyr proffesiynol yn y maes yn trafod eu gweithiau, y broses o gyfieithu ac addasu dramâu a phwysigrwydd cyfieithiadau ac addasiadau o fewn y theatr Gymraeg.

Ymysg sesiynau bydd Roger Owen yn trafod cyfieithiad W.J. Gruffydd o King Lear, Anwen Jones yn trafod cyfieithu cyfrifol gan ystyried Espriu, Primera Història d’Esther a Esther, Saunders Lewis a Samuel Jones yn edrych ar T. Hudson-Williams, Tshechoff a’r ddrama Gymraeg. I gloi’r cynhadledd cynhelir trafodaeth panel rhwng Gareth Miles, Manon Eames a T. James Jones.

Trefnir y gynhadledd gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwythar y cyd ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Chanolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth.

I gofrestru cysylltwch a Dr Rhianedd Jewell (rmj15@aber.ac.uk) erbyn 10 Tachwedd 2016.
Mae'r rhaglen yn llawn isod.