23 Awst 2016
Fis Medi eleni, bydd dau fardd o Gymru, Alys Conran a Rhys Trimble, yn ymweld â Riga yn Latfia ar gyfer Gŵyl Darlleniadau Barddoniaeth sy’n cael ei chynnal yn y brifddinas. Yno, bydd y ddau yn cydweithio â dau fardd o Latfia mewn gweithdy cyfieithu barddoniaeth wedi ei drefnu gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Mae’n rhan o brosiect cyfnewid rhwng beirdd o Gymru a Beirdd Baltig, ac mae cyhoeddiad a thaith eisoes wedi eu trefnu ar gyfer 2018 yn sgil y prosiect.
Cyhoeddodd Rhys Trimble ei gyfrol ddiweddaraf, Swansea Automatic, yn 2015, ac mae ei waith yn adnabyddus am fod yn uchelgeisiol, yn arbrofol ac yn waith sy’n gwthio ffiniau traddodiad. Daw Rhys yn wreiddiol o Bontneddfechan, ond mae’n byw ym Methesda erbyn hyn.
Cafodd Alys Conran sylw yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi ei nofel Saesneg Pigeon, nofel a gyhoeddwyd ar yr un pryd yn y Gymraeg dan y teitl Pijin, wedi ei chyfieithu’n gelfydd gan Sian Northey. Cyhoeddir ei barddoniaeth yn gyson mewn cyfrolau a chyfnodolion, ac mae’n ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Bangor.
Mae Alys a Rhys yn teithio i Riga dan nawdd prosiect Ewrop Lenyddol Fyw, ac mae’r Ŵyl Darlleniadau Barddoniaeth yn un o bartneriaid Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.