Teithio Bydoedd India ac Ewrop drwy lenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth

Teithio Bydoedd India ac Ewrop drwy lenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth

25 Hydref 2016

Poster bach bach

Fe fydd Ned Thomas yn sgwrsio gyda V Ramaswamy yng nghanolfan Y Morlan, Aberystwyth, nos Lun, 7 Tachwedd 2016 am 7:30yh.

Mae V Ramaswamy yn awdur ffeithiol a chyfieithydd. Fel ymgyrchydd dros hawliau gweithwyr tlotaf yn Kolkata, mae wedi ysgrifennu am weithwyr, sgwatwyr, slymiau, tlodi, tai ac ailgartrefu. Bu ar flaen y gad yn yr ymgyrch i adfywio ac ail-adeiladu ei ddinas o lefel lawr gwlad. Ers 2005, mae wedi bod yn cyfieithu straeon byrion yr awdur Bangla, Subimal Misra.

Ar hyn o bryd, mae V Ramaswamy yn Aberystwyth am dri mis a hynny fel Cymrawd Ysgrifennu a Chyfieithu Ymddiriedolaeth Charles Wallace India Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei gyfnod yma, mae'n gweithio ar gyfieithiad Saesneg o nofel gyfoes gan yr awdur Bangla, Manoranjan Byapari tra hefyd yn ysgrifennu ysgrif hir ar ei brofiad o gyfieithu llais gwrth sefydliadol ac eiconig Subimal Misra.

Mae Ned Thomas yn llywydd Sefydliad Mercator. Eleni, cyhoeddwyd ei gyfrol, Bydoedd (Y Lolfa, 2011) mewn cyfieithiad Bangla gan Sunandan Roy Chowdhury gan wasg Sampark. Cefnogwyd y gyfrol gan grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.

Fe fydd y noson, a gynhelir yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, yn gyfle i glywed Ned Thomas a V Ramaswamy yn trafod ac archwilio India ac Ewrop drwy iaith, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Fe fydd y noson yn cychwyn am 7:30yh. Mynediad am ddim, croeso cynnes i bawb.

Mae mwy o wybodaeth am Gymrodoriaeth Ysgrifennu a Chyfieithu Ymddiriedolaeth Charles Wallace India Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ym Mhrifysgol Aberystwyth i'w ganfod yma.