179° – Zoë Skoulding a Samira Negrouche yn cydweithio

179° – Zoë Skoulding a Samira Negrouche yn cydweithio

01 Gorffennaf 2014

Timimoun avril 2012 223

Fe fydd y bardd Zoë Skoulding yn cydweithio gyda Samira Negrouche, bardd o Algeria yng Ngwyl Farddoniaeth Ledbury a’r Mosaic Rooms yn Llundain drwy gyfrwng preswyliad a drefnir gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Mewn perfformiad arbennig, bydd y beirdd yn cydblethu iaith a sŵn i greu perfformiad arbennig dan y teitl 179°. Bwriad 179° yw archwilio barddoniaeth mewn cyfieithiad fel taith aml-lwybr. Wrth droi cerdd i wynebu iaith arall, mae ôl y gwreiddiol i’w weld o hyd, ond ei bod yn broses na chaiff fyth ei chwblhau.

Gan weithio rhwng ieithoedd – Saesneg a Ffrangeg yn bennaf ond hefyd Arabeg a Tamazight – caiff y weithred o wrando sydd eisoes yn y cerddi gwreiddiol ei hymestyn. Drwy gyfuno llais, synau electronig, a synau wedi eu recordio, bydd y beirdd yn archwilio’r berthynas rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth, diddordeb sy’n codi yng ngwaith Zoë Skoulding a Samira Negrouche.

Uchafbwynt y preswyliad, sy’n cychwyn ym Maenceinion ac yn parhau yn Ledbury, fydd perfformiadau yng Ngwyl Farddoniaeth Ledbury a’r Mosaic Rooms yn Llundain. Fe fydd sesiwn agored yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa gael blas ar y broses o gydweithio cyn mynd i weld y perfformiad.

Darllenwch fwy am 179° ar wefan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yma.

Cefnogir y digwyddiad gan Cyngor Celfyddydau Lloegr.

179° - digwyddiadau byw

Sesiwn Preswyliad Agored

Gwyl Farddoniaeth Ledbury

Dydd Mawrth Gorffennaf 8fed 5 – 6pm

Digwyddiad am ddim ond wedi ei docynnu

Perfformiad Gwyl Farddoniaeth Ledbury

Dydd Mercher Gorffennaf 9fed 8 – 9pm,

£8

Perfformiad Mosaic Rooms Llundain

Dydd Iau Gorffennaf 10fed 7pm

Am ddim ond bod angen archebu lle drwy ebostio rsvp@mosaicrooms.org