24 Rhagfyr 2014
Mewn partneriaeth a chylchgrawn Taliesin, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o gyflwyno atodiad arbennig Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: Chile a’r Ariannin gyda Rhifyn 153: Gwladfa.
Dyma’r ail atodiad i’r Gyfnewidfa Lên ei greu mewn partneriaeth â Taliesin. Gan ddilyn India yn 2013, nod y gyfrol yw rhoi blas ar ffrwyth teithiau cyfieithu diweddar a drefnwyd yn Yr Ariannin a Chile gan y Gyfnewidfa, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig.
Yn yr atodiad, ceir cyfieithiadau gan y beirdd Mererid Hopwood a Karen Owen o waith Jorge Aulicino, Jorge Fonderbrider, Owen Tydur Jones, a Veronica Zondek yn ogystal a chyfraniadau gan Ned Thomas ac Owen Martell.
Mae Taliesin: Gwladfa ar atodiad Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: Chile a’r Ariannin ar werth nawr.