Ffrind da i Gymru: Cofio Guido Leotta

Ffrind da i Gymru: Cofio Guido Leotta

12 Awst 2014

Rhwng y 1af ar 2ail o Chwefror, bu farw Guido Leotta yn dilyn trawiad ar y galon. Yn gerddor, awdur, a llawer mwy, ef hefyd oedd y cyhoeddwr Eidaleg cyntaf i dderbyn cyfres o gyfieithiadau o lenyddiaeth o Gymru, Geiriau o Gymru: Parole dal Galles – a’u cyhoeddi drwy ei wasg Mobydick.

O 1997, pan y cyflwynom ni’n syniadau am y tro cyntaf i Guido, hyd 2010, cyfieithwyd dwy ar bymtheg o gyfrolau i’r Eidaleg, gyda chefnogaeth Cyfnewidfa Lên Cymru a Sioned Puw Rowlands yn arbennig. Roedd y gyfres yn cynnwys llenyddiaeth o Gymru yn y ddwy iaith.

Gyda’i weledigaeth, ei angerdd di-feth, a’i gariad at ddiwylliant, ychydig wrth ychydig llwyddodd i gyflwyno awduron o Gymru i’r panorama ddiwylliannol Eidaleg. Cymaint oedd ei lwyddiant nes bod gwahaniaethu clir bellach rhwng llenyddiaeth o Gymru a llenyddiaeth o Loegr yma yn yr Eidal a bod nifer o gyhoeddwyr eraill wedi bod yn cyhoeddi cyfieithiadau o weithiau awduron newydd o Gymru.

Diolchwn i Guido am gael cydweithio, am ei gyfeillgarwch, a’i allu i ganoli mewn sefyllfaoedd anodd. Mae ei farwolaeth yn golled fawr i’w deulu, ei gyfeillion a’i gyd-weithwyr, mae diwylliant Romagnolo ar Eidal yn gweld ei golli’n ddirfawr.

Andrea Bianchi a Silvana Siviero