Wythnos yn Slofenia Fydd

Wythnos yn Slofenia Fydd

24 Mai 2016

Simon Brooks sy’n rhannu ei argraffiadau wrth iddo ymweld â Slofenia yn ystod mis Ebrill lle bu’n cymryd rhan yn y Slovene Book Days a drefnir gan Gymdeithas Awduron Slofenia. Trefnwyd ei daith gan Gymdeithas Awduron Slofenia a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw, a'i chefnogi gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.

Wythnos yn Slofenia Fydd

Slofenia yw’r wlad y gallai Cymru fod wedi bod ond na fydd hi fyth. Bro rhwng môr a mynydd, gwlad fechan, gwlad ble mae’r iaith frodorol yn ffynnu, gwlad sy’n mynd yn fwy cefnog o ddydd i ddydd, gwlad annibynnol. Yn Wythnos yng Nghymru Fydd mae Islwyn Ffowc Elis yn cynnig dwy weledigaeth o ddyfodol Cymru; y naill fel iwtopia a’r llall fel dystopia. Gallasai fod wedi cynnig yr un metaffor ar ffurf dadl ddaearyddol, oherwydd yn Ewrop heddiw, Slofenia yw’r iwtopia a Chymru yw’r dystopia. Slofenia yw Cymru Fydd.

Dyna, yn fras, y ddelwedd a gyflwynais o hanes gymharol Cymru a Slofenia mewn trafodaethau ar fy llyfr diweddar, Pam na fu Cymru, yn Ljubljana, ac yn Novo mesto, tref fechan yn ne-orllewin y wlad. Yn Pam na fu Cymru, rwy’n trafod hanes Cymru ac yn ei chymharu â hanes nifer o wledydd bychain Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y Gymraeg yn gryfach yr adeg honno nag ieithoedd fel y Slofeneg, y Slofaceg a’r Estoneg. Ond erbyn hyn, mae Slofeneg, Slofaceg ac Estoneg wedi’u dyrchafu’n unig ieithoedd swyddogol gwladwriaethau annibynnol. Does yna ddim perygl o fath yn y byd y byddant yn diflannu, er bod pobl ifanc wedi meistroli Saesneg yn lingua franca i’w defnyddio gydag ymwelwyr.

Gellir gweld fideo ar You Tube o’r ddadl yn Novo mesto am Pam na fu Cymru:

https://www.youtube.com/watch?v=9tzHnsq4Uvk

Nid yw hanes Slofenia yn fêl i gyd. Fel yng ngwledydd eraill canolbarth Ewrop, bu farw miloedd. Bu brwydrau dros ideoleg, a brwydr dros dir. Diflannai cymunedau ieithyddol lleiafrifol a fodolai ar lefel lai na’r genedl.

Nid nepell o Novo mesto, wrth y ffin â Chroatia, ceid am chwe chanrif, o 1330 hyd at yr Ail Ryfel Byd, Sprachinsel (‘ynys iaith’) o’r enw Gottschee, cymuned fechan o siaradwyr Almaeneg wedi’u hamgylchynnu’n gyfangwbl gan siaradwyr Slofeneg. Tua’r un maint â Sir Fôn, roedd hon yn gymdeithas Almaeneg drwyadl a ddatblygai dros y canrifoedd ei thafodiaith ei hun. Fe’i dinistriwyd yn gyfangwbl yn yr Ail Ryfel Byd, pan orchmynnodd Hitler symud ei phoblogaeth i ran arall o’i Reich arfaethedig. Nid oedd yn wleidyddol bosibl i’r boblogaeth Almaeneg ddychwelyd i Gottschee ar ddiwedd y Rhyfel.

Heddiw, nid yw tafodiaith Gottschee, Gottscheerish, ar lefarydd ond llond dwrn o frodorion sydd erbyn hyn i gyd dros eu 70 mlwydd oed, y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn America. Ceir wrth gwrs goffa da am gymuned a fu. Mae yna amgueddfa fechan ar gwr un o’r pentrefi – dau fuarth yn ymyl perllan, a chofeb.

Gellir dweud am Gottscheerish fel y canodd Waldo:

A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig,

Hoyw yng ngenau dynion oeddynt hwy,

A thlws i’r glust ym mharabl plant bychain,

Ond tafod neb ni eilw arnynt mwy.

Nid bai’r Slofeniaid yw bod Gottschee wedi diflannu. Oni bai am Hitler, byddai cymuned Almaeneg hyd heddiw. Ond mae tynged Gottschee yn cynnig moeswers yr un fath. Mae’n ein hatgoffa fod pob cenedl fechan yn cynnwys o’i mewn ei lleiafrifoedd ei hun.

Yng Nghymru, Saesneg yw iaith gynhenid de Penfro, Gŵyr a rhannau o Fro Morgannwg ers y canol oesoedd. Dadlennol yw meddwl beth fuasai ei thynged pe bai’r fath beth â Chymru Gymraeg uniaith wedi dod i fodolaeth.

A fuasai Saesneg Hwlffordd a Dinbych-y-Pysgod heddiw yn iaith leiafrifol, a gwirfoddolwyr yn trefnu meithrinfeydd, mentrau iaith a phapur bro ar ei rhan? Ynteu a fuasai’r rhan fwyaf o’i phobl ifanc wedi rhoi’r ffidil yn y to, ac wedi symud i Loegr? A fuasem fel Cymry yn ddigon caredig i ganiatáu i rai digwyddiadau gael eu cynnal mewn Saesneg (er mynnu wrth reswm fod offer cyfieithu ar gael ar gyfer y Cymro uniaith yn bwrw heibio ar dro). Ni allwn ond gobeithio y buasai’r Gymru uniaith na ddaeth i fodolaeth wedi cadw lle i Saesneg fel priod iaith y rhannau honno o’r wlad ble y bu’n unig iaith y bobl am ganrifoedd lawer.

SIMON BROOKS

* Cyhoeddwyd llyfr Simon, Pam na fu Cymru, gan Wasg Prifysgol Cymru ac mae wedi ei enwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.