29 Mawrth 2017
Mae’r bardd a’r nofelydd Alys Conran wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol Dylan Thomas gyda’i nofel Pigeon a gyhoeddir gan Parthian. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg gan Sian Northey o’r nofel, Pijin, hefyd gan Parthian.
Sefydlwyd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006. Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i'r darn gorau o waith wedi'i gyhoeddi'n Saesneg, sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau. Bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas.
Dywedodd cadeirydd y panel beirniadu, yr Athro Dai Smith: “O'r rhestr hir drawiadol o 12 o ddarnau llenyddol o bob cwr o'r byd, penderfynodd y beirniaid, ar ôl trafodaeth hir, ar chwe darn o waith syfrdanol o ran eu hansawdd a’u gwreiddioldeb. Mae gennym nofel fer o Sri Lanka, dau gasgliad o straeon byrion, un o Awstralia a’r llall o’r Unol Daleithiau, casgliad o gerddi a nofel gan awduron o Loegr, a nofel gyntaf gan awdures o Gymru. Maent i gyd yn enillwyr ynddynt hwy eu hunain, ond bydd yr enillydd, a fydd yn derbyn y wobr ar 10 Mai, yn sicrhau unwaith eto, bod Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe yn rhyfeddu ac yn difyrru darllenwyr ledled y byd”.
Mae’r panel beirniadu eleni hefyd yn cynnwys: Kurt Heinzelman (bardd ac ysgolhaig); Alison Hindell (Pennaeth Drama Sain DU i’r BBC); yr Athro Sarah Moss (nofelydd ac ysgolhaig), a Prajwal Parajuly (awdur).
Datgelir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ar ddydd Mercher 10 Mai, fel rhan o ddathliadau Dydd Dylan ar 14 Mai.
Y rhestr fer yn llawn: