22 Medi 2015
Mae’r rhaglen breswyliadau yn agored i awduron sydd wedi cyhoeddi o leiaf dwy gyfrol, yn ogystal â chyfieithwyr llenyddol sydd wedi cwblhau ei hyfforddiant a chyhoeddi o leiaf dau gyfieithiad llenyddol. Dim ond cyfieithwyr sy’n cyfieithu llenyddiaeth Slofenia i iaith dramor sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen.
Mae Cymdeithas Ysgrifenwyr Slofenia yn gwahodd uchafswm o 20 awdur bob blwyddyn i weithio am rhwng 1-4 wythnos mewn fflat stiwdio yn Ljubljana. Mae’r fflat ail lawr wedi ei lleoli yn ardal Šiška, ac yn cynnwys gwely dwbl, cegin ac ystafell ymolchi.
Darparir ffon sefydlog yn ogystal â chyswllt gwe drwy gydol y preswyliad. Noder mai’r preswylydd fydd yn gyfrifol am gostau byw a theithio yn cynnwys yswiriant yn ystod y preswyliad.
I wneud cais, dylid darparu’r canlynol:
Dylid anfon eich cais drwy’r post neu drwy e-bost cyn 30.10.2015 i:
Društvo slovenskih pisateljev (Slovene Writers’ Association)
Tomšičeva 12
1000 Ljubljana
Cyfeiriad e-bost: dsp@drustvo-dsp.si
Dylid nodi ‘Artist in Residence in Ljubljana/Slovenia 2016’ yn glir ar y cais.
Ystyrir bob cais cyflawn. Cyhoeddir y dyfarniad erbyn 1 Rhagfyr 2015.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda Agata Šimenc: dsp@drustvo-dsp.si