Cyhoeddi Silff Lyfrau Hydref 2019 yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddi Silff Lyfrau Hydref 2019 yn Ffair Lyfrau Frankfurt

16 Hydref 2019

Slider img Top Self Oct19 FINAL

Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i'r Almaen ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt, a gynhelir rhwng 16 - 20 Hydref 2019. Norwy fydd y wlad wadd eleni.

Yn ystod y ffair fe fyddwn yn cyfarfod â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau ar gyfer 2019-20 – sef detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

Detholwyd 11 llyfr arbennig o Gymru i'r silff eleni: pob un yn fyd ynddo’i hun.

Mae Cerdded Mewn Cell, casgliad o straeon byrion syfrdanol gan Robin Llywelyn, yn dod â llu o gymeriadau rhyfedd yn fyw mewn cyfres o fydoedd dychmygus, realistig neu rhai sydd wedi’u hail-ddyfeisio. Cyfrol raenus gan un o awduron mwyaf dyfeisgar Cymru.

Casgliad o gerddi cwbl arbrofol sydd yn cwestiynu ffurfiau barddonol eu hun yw cyfrol ddiweddaraf Deryn Rees-Jones, Erato, ac un sydd yn creu deialog am alaru, colled, a deialog gyda’r meirw eu hunain.

Yn Broken Ghost gan Niall Griffiths, mae cymeriadau sydd wedi eu hymyleiddio gan gymdeithas yn gweld drychiolaeth ryfedd sydd yn newid eu bywydau ac yn siglo’r gymuned gyfan.

Mae sawl cyfrol yn teithio yn ôl mewn amser i gyfnodau o ddatblygiadau diwydiannol. Mae Babel gan Ifan Morgan Jones yn waith campus o’r genre agerstalwm – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Dilynwn daith Sara yn ffoi o’i bywyd dan ormes ei thad yn y wlad i fwrlwm y dref.

Stori ysbryd yw cyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth Damian Walford Davies, Docklands, sydd yn dychwelyd i Gaerdydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda naratif o bensaer wedi’i gomisiynu i ail-lunio’r dociau. Pan welai’r pensaer yr un ferch (ysbryd neu ferch go iawn?) dros y lle, ymgollai ei hun i isfyd y ddinas a chawn dirlun annaearol o’r brif ddinas.

Cawn deithio i’r gorffennol gyda chyfrolau eraill o'r Silff, gyda chyfrolau sydd yn ymdrin â chof. Mae Ingrid gan Rhiannon Ifans, enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2019, yn portreadu profiad o’r salwch dementia trwy lygaid y rhyfeddol Ingrid ac, yn eu tro, aelodau o’i theulu gyda mynegiant sensitif a bythgofiadwy.

Wedi ei seilio ar hanes go iawn o achos llofruddiaeth Joanna Yeates, mae Throw Me to the Wolves yn cyfuno agweddau o lenyddiaeth trosedd a dirgelwch gydag arddull adnabyddus Patrick McGuinness sydd yn myfyrio’n ddwys ar themâu’r cof, camdriniaeth plant a thrawma.

Wrth ddilyn hanes tair menyw, cawn deithio hefyd rhwng Prydain ac India yn ail nofel Alys Conran, Dignity, tra bod pedwaredd gyfrol y bardd Richard Gwyn, Stowaway, yn llawn gorymdeithiau a gorymdeithwyr sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau daearyddol, hanesyddol, a hyd yn oed rhai dychmygol.

Mewn naratif sydd yn dwyn Borges i’r cof, mae The Blue Tent gan Richard Gwyn yn chwarae eto gyda’r cysyniad o amser a realiti, gyda chymeriad sydd yn drysu dros babell las sydd wedi ymddangos wrth ymyl ei dŷ.

Yn Hen Ieithoedd Diflanedig gan Mihangel Morgan, cawn gyfres o gerddi o safbwyntiau siaradwyr olaf ugain o ieithoedd marw neu ddiflanedig, portreadau difyr yn llawn ffraethineb ac empathi.

Caiff bob un o’r cyfrolau eu hyrwyddo gan Gyfnewidfa Lên Cymru mewn ffeiriau llyfrau, gwyliau llenyddol, gweithdai cyfieithu a digwyddiadau eraill yn rhyngwladol dros y flwyddyn sydd i ddod.
I ddarllen rhagor am y teitlau hyn ac i gael manylion hawliau cyfieithu, ewch i’r adran Silff Lyfrau.

I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod Ffair Lyfrau Frankfurt, cysylltwch gyda ni: post@waleslitexchange.org