Pum awdur, pum iaith

Pum awdur, pum iaith

28 Tachwedd 2012

Y pussaka hud

Mae'r Gyfnewidfa yn dathlu cyhoeddi yn Gymraeg gyfrol i blant 9-10 oed sydd wedi cael ei hysgrifennu gan bump o awduron plant o bum gwlad - Cymru, Ffindir, Catalwnia, Y Weriniaeth Tsiec ac Iwerddon. Menna Elfyn yw'r awdur o Gymru. Cawn ddilyn anturiaethau brawd a chwaer, Nic ac Anna, wrth iddyn nhw deithio o wlad i wlad gyda chymorth y pwrs hud - y pussaka.

Mae'r gyfrol yn ffrwyth gweithdy cyfieithu creadigol a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau a'r Institució de les Lletres Catalanes, Barcelona mewn partneriaeth â'r Gyfnewidfa Lên, yn uchel fry ym mynyddoedd Pyreneau dwyreiniol Catalwnia. Mae'r gyfrol bellach ar gael yn y bum iaith. Dylunwyd hi gan ddylunydd o'r Ffindir. Cyhoeddir y gyfrol Gymraeg gan Wasg y Bwthyn.

Prynwch y gyfrol yma.